Baner San Marino

Baner San Marino

Baner ddeuliw lorweddol, gyda'r hanner uchaf yn wyn a'r hanner isaf yn las, yw baner San Marino. Cymerwyd y lliwiau o'r arfbais genedlaethol, sydd yn cael ei gosod yng nghanol y faner am ddefnydd swyddogol. Mae gwyn yn cynrychioli'r eira ar Fynydd Titano (lleoliad y wlad) a'r cymylau uwchben fo, tra bo glas yn cynrychioli'r awyr. Mae'r faner yn dyddio yn ôl i 1797, a chafodd ei hadnabod gan Napoleon Bonaparte fel baner gwladwriaeth annibynnol yn 1799.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search